DETGANIAD YSGRIFENEDIG
GAN
LYWODRAETH CYMRU
TEITL
|
Gosod
Microsglodion ar gŵn yng Nghymru
|
DYDDIAD
|
Dydd Llun 16
Chwefror
|
GAN
|
Rebecca Evans
AC, y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd
|
Yn dilyn taith lwyddiannus Rheoliadau Lles
Anifeiliaid (Bridio) (Cymru) 2014 trwy’r Cynulliad
Cenedlaethol, rwy’n ysgrifennu yn awr i roi’r manylion
diweddaraf i chi am y camau nesaf o ran cyflwyno microsglodynnu
gorfodol ar gyfer pob ci yng Nghymru.
Mewn Datganiadau Ysgrifenedig blaenorol, nodais ei
bod yn annhebygol y byddai microsglodynnu gorfodol mewn grym yng
Nghymru erbyn y dyddiad targed, sef 1 Mawrth 2015.
Yn 2012, cynhaliwyd ymgynghoriad ar egwyddorion
polisi cyffredinol gosod microsglodion ar bob ci yng Nghymru. Roedd
84% o’r ymatebwyr o blaid gwneud microsglodynnu cŵn yn
orfodol. Wrth i’r gwaith fynd rhagddo, mae rhai meysydd
polisi penodol wedi cael eu datblygu gyda’r rhanddeiliaid
allweddol, ond erbyn hyn mae angen rhoi sylw i agweddau eraill. O
ganlyniad rwyf wedi penderfynu cynnal ymgynghoriad arall am wyth
wythnos, a hynny cyn gynted ag y bo modd, er mwyn casglu barn
ehangach am rai o’r elfennau penodol yr wyf yn cynnig eu
cynnwys yn y Rheoliadau. Ym mhlith yr elfennau i’w hystyried
y mae‘r trefniadau gorfodi, pwy sy’n gosod y
microsglodion, a sut mae cofnodi’r
microsglodynnu.
Ar ôl ymgynghori a drafftio’r
Rheoliadau arfaethedig, cynigir y bydd Gweinidogion Cymru’n
hybsysu’rAelod-wladwriaethau am y Rheoliadau trwy’r
Comisiwn Ewropeaidd. Bydd rhaid cynnal cyfnod segur o dri mis
o’r dyddiad yr hysbysir y Comisiwn cyn y gellir gosod y
Rheoliadau drafft gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.
Oherwydd yr ymrwymiadau hyn rydyn yn anelu yn awr
i gyflwyno microsglodynnu gorfodol ar gyefer pob ci yng Nghymru yng
ngwanwyn 2016, i gyd-fynd â’r dyddiad y cyhoeddwyd y
daw microsglodynnu’n orfodol yn Lloegr.
Mae
Rheoliadau Microsglodynnu DEFRA wedi cael eu cyflwyno eisoes, a
bydd yn orfodol gosod microsglodion ar gŵn yn Lloegr o fis
Ebrill 2016 ymlaen. Bydd fy swyddogion i’n parhau i
gydweithio’n agos â’u cymheriaid yn Lloegr ar
faterion trawsffiniol; caiff cŵn eu symud dros y ffin yn
rheolaidd ac rwy’n cydnabod felly ei bod yn hollbwysig
cydweithio’n agos. O gofio bod darparwyr
gwasanaethau microsglodynnu yn gweithio ar draws ffiniau Cymru a
Lloegr, mae gofyn cysoni safonau a chyd-drefnu’n gwaith fel
ei fod yn cael ei gynnal yr un pryd ag yn Lloegr.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r
wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud
datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan
fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud
hynny.